
AMDANOM NI
Llywydd:
Capten Syr Norman Lloyd-Edwards KCVO, RD *, JP, RNR
Awdur Llawryfog:
Dr. Alun Francis
Cyfarwyddwr Cerdd:
Eric W Phillips MBE

Sefydlwyd Cerddorfa Ieuenctid Sir Caerdydd a Bro Morgannwg (Cerddorfa Ieuenctid De Morgannwg gynt) ym 1975.
Mae'r gerddorfa'n ymarfer yn wythnosol yn ystod y tymor yn Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Newydd ar gyrion Caerdydd. Ar hyn o bryd mae gennym 110 aelod rhwng 13 a 22 oed.
​
Anelir y Gerddorfa Ieuenctid, sef y Gerddorfa HÅ·n, sy’n un o bedair cerddorfa symffoni wythnosol o dan ymbarél Gwasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg, at gerddorion o safon Gradd 6 neu uwch. Mae'r gerddorfa'n ymarfer bob nos Wener yn ystod y tymor ysgol, yn cynnal cyrsiau penwythnos preswyl / dibreswyl bob tymor, yn ogystal â pharatoi ar gyfer cynnal tri chyngerdd mewn lleoliadau mawreddog yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn flynyddol. Mae'r gerddorfa hefyd yn mynd ar daith 10 diwrnod yn Ewrop bob dwy flynedd a chafwyd llawer o deithiau cyngerdd hynod lwyddiannus gan gynnwys rhai i Stuttgart, Arhensburg, Fienna, Caeredin, yr Eidal a'r Weriniaeth Tsiec.
​
Daw staff y gerddorfa o Wasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg, gyda chymorth tîm o gerddorion proffesiynol blaenllaw o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, sy'n cynnal ymarferion adrannol.

HANES A THEITHIAU’R GERDDORFA
1975
Sefydlwyd Cerddorfa Ieuenctid De Morgannwg gan Walter Gerhardt ar y cyd â Choleg Cerdd a Drama Cymru
1977
Penodwyd Frank Kelleher yn Brif Arweinydd
1984
Prom Ysgolion - Neuadd Brenhinol Albert
1982
Taith dramor gyntaf i Stuttgart a Hamburg
1986
Taith dramor fawr i Hwngari
1985
Penodwyd Jeffrey Lloyd yn Brif Arweinydd
1990
Penodwyd Dr Alun Francis (Cerddorfa Symffoni Berlin) yn Arweinydd Llawryfog
1990
Prom Ysgolion - Neuadd Brenhinol Albert
1995
Cyngerdd dathlu pen-blwydd 20 mlynedd: Symffoni Mahler Rhif 2 “Atgyfodiad”
1993
Eric Phillips yn olynu Jeffrey Lloyd fel Prif Arweinydd
1996
Ymweliad cyntaf â Gŵyl Cerddorfeydd Ieuenctid Prydain yng Nghaeredin
1996
Yn dilyn ad-drefnu Llywodraeth Leol daw Cerddorfa Ieuenctid De Morgannwg yn Gerddorfa Ieuenctid Sir Caerdydd a Bro Morgannwg
1998
Ennill gwobr cydradd ail yng Ngŵyl Ryngwladol Ieuenctid a Cherddoriaeth, Fienna
1999
Enillwyr Gwobr Cerddorfa Ieuenctid Boosey a Hawkes yn 20fed Gŵyl Cerddorfeydd Ieuenctid Prydain yng Nghaeredin
2000
Cyngerdd y Mileniwm: Symffoni Alpaidd Richard Strauss
2002
Enillwyr un o brif wobrau Sainsbury ar gyfer Cerddorfa Ieuenctid
2002
Gwahoddiad i berfformio yng Ngŵyl Ryngwladol Cerddorfeydd Ieuenctid, Fflorens
2004
Taith i Wyliau Riva del Garda, Salo a Vipiteno yn yr Eidal
2005
Cyngerdd dathlu pen-blwydd yn 30 oed: Richard Strauss Also Sprach Zarathustra
2008
Taith i Slofacia a'r Weriniaeth Tsiec
2010
Taith yr Eidal: Negrar, Redondesco, Asiago
2012
Taith yr Eidal: Perugia, Montecatini, Florence
2015
Cyngerdd dathlu 40 mlwyddiant: Berlioz Symphonie Fantastique
2014
Taith yr Eidal: Bastia Umbra, Passignano, Perugia
2016
Taith yr Eidal: Asiago, Asolo, Fumane
2020
Taith yr Eidal: gohiriwyd
2023
Taith yr Eidal: Verona, Cremona, Asola, Padova
CYFLWYNO’R STAFF

ERIC W. PHILLIPS MBE
(Cyfarwyddwr Cerdd)
Yn enedigol o Gastell-nedd, graddiodd Eric o Goleg Prifysgol Caerdydd gyda gradd BMUS (Anrh) ac wedi cwblhau gradd meistr, dechreuodd ar ei yrfa fel athro yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd ym 1980. Astudiodd y piano gyda Richard McMahon a Martin Jones yn y Brifysgol, lle enillodd 'Wobr Goffa Eric Harrison i Bianyddion'.
Fel arweinydd Cerddorfa Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Newydd, cafodd Eric brofiadau arbennig yn arwain yn Neuadd Albert a’r Royal Festival Hall, Llundain, Neuadd Dewi Sant Caerdydd ac mewn amrywiol leoliadau tramor.
Ymunodd Eric â staff y Gerddorfa Ieuenctid ym 1980. Bum mlynedd yn ddiweddarach daeth yn Gyd Arweinydd a phenodwyd ef yn Brif Arweinydd ym 1993. O dan ei gyfarwyddyd, cafwyd perfformiadau rhagorol o rai o weithiau mwyaf heriol y repertoire cerddorfaol - ail, 3ydd, 5ed a 6ed Symffoni Mahler, Symffoni Rhif 2 Rachmaninov, Symffoni Alpaidd Richard Strauss a Choncerto i Gerddorfa Bartok. Dyfarnwyd yr MBE i Eric yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2013.
JULIE THORNE
(Rheolwraig Y Gerddorfa)
Ymunodd Julie â'r Gerddorfa ym 1995, yn fuan ar ôl cwblhau Gradd Cerddoriaeth (BMUS) ym Mhrifysgol Caerdydd a dechrau ar ei swydd fel athrawes yn Adran Gerdd Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. Bu hefyd yn aelod o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC rhwng 1994 a 2004.
Ers rhoi’r gorau i’w swydd fel athrawes yn 2014, mae Julie wedi chwarae rhan bwysig wrth gefnogi busnesau fferylliaeth ei gŵr, yn ogystal â bod yn fam i'w dau blentyn. Julie sy’n gyfrifol am weinyddiaeth fanwl wythnosol y gerddorfa a hi hefyd sy’n trefnu cyrsiau, cyngherddau a theithiau tramor.
Mae Julie yn sgïwr brwd ac yn mwynhau gwyliau sgïo rheolaidd yn ystod misoedd y gaeaf gydag Alison a theuluoedd eraill mewn gwahanol gyrchfannau Ewropeaidd.


ALISON HOWELLS
(Cynorthwyydd Llyfrgell a Cherddorfa)
Ganwyd Alison yng Nghaeredin, a symudodd i Gymru i astudio fiola gyda Stephen Broadbent yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle enillodd radd BA Celfyddydau Perfformio (Cerddoriaeth) a Thystysgrif Uwch mewn Perfformio. Yn y coleg, Alison oedd prif fiola y Gerddorfa Symffoni a’r Gerddorfa Siambr a bu’n chwarae offerynnau taro yn y Band Chwyth.
Ers gadael y coleg, mae Alison wedi gweithio fel athrawes peripatetig i Wasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg, gan ddysgu ffidil a fiola i ddechreuwyr ac ymlaen i safon gradd 8 a thu hwnt, yn ogystal â bod yn diwtor gyda cherddorfeydd sylfaen a ieuenctid. Pan fydd amser yn caniatáu, mae Alison hefyd yn gweithio fel chwaraewr fiola ar ei liwt ei hun mewn cerddorfeydd a sioeau.
​
Yn ei hamser hamdden mae Alison yn mwynhau gwyliau sgïo gyda Julie, beicio a gwylio rygbi.
REBECCA SWEET
(Llinynnau)
Yn enedigol o Gaerdydd, dechreuodd Rebecca ddysgu'r ffidil gyda Sylvia Jones, Jeff Lloyd a Phil Roberts. Fe aeth ymlaen i astudio ei BMUS (Anrh) dan gyfarwyddyd Darragh Morgan yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a'i PGdip gyda Clare Thompson yn Conservatoire Cerdd a Dawns Trinity Laban
Yn blentyn, fe berfformiodd Rebecca gydag ensembles Sir Caerdydd a Bro Morgannwg a threuliodd chwe blynedd yn chwarae gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, gan ddod yn gyd-arweinydd yn ystod ei dwy flynedd olaf. Ers gadael y coleg, mae Rebecca yn gweithio fel cerddor ar ei liwt ei hun ac yn mwynhau dysgu ffidil a phiano a chwarae'n rheolaidd gyda cherddorfeydd fel Sinfonietta Prydain, Sinfonietta Caerdydd a Sinfonia Cymru. Yn 2015 gwnaeth Rebecca ei hymddangosiad cyntaf ar y teledu gan berfformio yn rownd terfynol yr X Factor yn arena Wembley!
