top of page
IMG_0010_TEST copy.jpg

CROESO I

CERDDORFA IEUENCTID CAERDYDD A'R FRO

IMG_0005.JPG

AMDANOM NI...

Sefydlwyd Cerddorfa Ieuenctid Sir Caerdydd a Bro Morgannwg (Cerddorfa Ieuenctid De Morgannwg gynt) ym 1975.

  

Mae'r gerddorfa'n ymarfer yn wythnosol, yn ystod y tymor, yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd ar gyrion Caerdydd. Ar hyn o bryd mae gennym 110 aelod rhwng 13 a 22 oed.

06-2.jpg

Mae'r Gerddorfa Ieuenctid yn paratoi ar gyfer tri chyngerdd yn flynyddol mewn lleoliadau sy’n cynnwys Neuadd fawreddog Hoddinott y BBC, Canolfan Mileniwm Cymru. Mae'r gerddorfa hefyd yn mynd ar daith cyngerdd dramor i Ewrop bob dwy ynedd.

PERFFORMIADAU A DIGWYDDIADAU ...

02.jpg

BETH MAE POBL YN DWEUD

“Roedd y CCVGYO yn rhan annatod o’m taith artistig. Roedd pob ymarfer yn fy ysbrydoli. Dim ond ar ôl chwarae yn y gerddorfa hon y sylweddolais fy mhotensial a dechrau cyfansoddi cerddoriaeth gerddorfaol. Mae’r cyfeillgarwch a brofir yma yn para oes ac mae arnaf ddyled i'r gerddorfa am ddarparu y fath hyfforddiant anhygoel, gan feithrin fy ngallu cerddorol a rhoi i mi atgofion mor arbennig”.

- Katie Jenkins  

Cyn Aelod (Ffidil)

EIN NEWYDDION DIWEDDARAF ...

Oherwydd pandemig COVID 19 a pharhad mesurau pellhau cymdeithasol, nid ydym yn gallu ymarfer fel cerddorfa lawn ar hyn o bryd, ond edrychwn ymlaen at ailddechrau ymarferion cyn gynted ag y medrwn. Er mwyn ennyn a chynnal diddordeb ein chwaraewyr yn ystod y cyfnod clo, dyma’r hyn a wnaethom...

DSC03231 copi.jpg
IMG_0094.JPG

Dewch i gwrdd â ni trwy edrych ar luniau o gyn berfformiadau a theithiau.

ORIEL DDARLUNIAU…

Dim ond cyfran fach o'n costau a gyllidir gan y Cyngor, trwy Wasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg a ffioedd aelodaeth. Mae'r Gerddorfa Ieuenctid yn dibynnu ar nawdd, rhoddion a gweithgareddau codi arian i'n helpu i ffynnu a hyrwyddo ein profiadau cerddorol trwy gyrsiau preswyl a theithiau cyngerdd gartref a thramor. Cliciwch isod i ddarganfod sut y gallech chi helpu i gefnogi ein gwaith.

IMG_0007.JPG

EIN CEFNOGWYR ...

Cysylltwch â ni trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ein ffurflen gyswllt uniongyrchol.

YDYCH CHI ANGEN RHAGOR O WYBODAETH?...

bottom of page